Yn y llun uchod: Aelodau o Gyngor Cymuned Llanwenog a Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian.
Mae Cyngor Cymuned Llanwenog wedi codi dros £500 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Mae gan y Cyngor Cymuned 11 o Gynghorwyr etholedig, yn gwasanaethu wyth pentref ac yn ffurfio Plwyf Llanwenog.
Bu criw o dros 50 o bobl yn cymryd rhan yn nhaith gerdded flynyddol Cyngor Cymuned Llanwenog i godi arian.
Dywedodd Gwennan Jenkins, Clerc Cyngor Cymuned Llanwenog: “Roedd y daith gerdded yn llawer o hwyl ac addysgiadol iawn. Cerddon ni ar draws Gors Gorsgoch a dysgu am hanes y pentref.
“Fe ddewison ni godi arian i’r uned gan fod nifer o drigolion y Plwyf wedi cael eu heffeithio gan ganser yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi elwa o’r gwasanaeth.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”