Neidio i'r prif gynnwy

Cymuned leol yn dod at ei gilydd i gefnogi Apêl gerddi

Uchod: Staff y Foel yn dangos eu cefnogaeth i’r apêl.

 

Mae'r gymuned leol yn dod at ei gilydd i gefnogi Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip.

Mae busnesau, clybiau a sefydliadau ar draws ardaloedd Felin-foel a Dafen yn Llanelli yn ymuno yn yr ymdrech i godi £100,000 i greu gerddi therapiwtig newydd i gleifion hŷn yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae’r Phil Bennett, The Royal Oak Felinfoel, Y Foel, Dafen Chemist, Dafen Stores a Swyddfa’r Post, Gorsaf Betrol Owens a siop Ysbyty Tywysog Philip oll wedi dangos eu cefnogaeth yn ddiweddar drwy arddangos blychau casglu yn garedig.

Dywedodd Darren Cross, Rheolwr The Phil Bennett, “Mae pob un ohonom yn y Phil Bennett yn frwd dros gefnogi achosion lleol. Rydyn ni’n meddwl bod Apêl Gerddi Tywysog Philip yn achos gwych y dylai pawb yn Llanelli ei gefnogi.”

Mae clwb rygbi lleol, Clwb Rygbi Felinfoel, hefyd yn ymuno â'r gwaith codi arian.

Bydd casgliad ar gyfer yr Apêl yng Nghlwb Rygbi Felinfoel yn ystod gêm hynod ddisgwyliedig Clwb Rygbi Felinfoel v Llanelli Wanderers ym mis Mawrth.

Dywedodd Mark Sayers, Trysorydd Clwb Rygbi Felin-foel, “Ar ran Clwb Rygbi Felinfoel, rydym yn falch iawn fel clwb rygbi lleol i fod yn cefnogi Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip trwy gael casgliad bwced yng ngêm rygbi Felin-foel v Llanelli Wanderers ar ddydd Sadwrn 9fed Mawrth. gyda cic gyntaf 2:30pm.

“Gobeithio y bydd y gwylwyr yn hael ac yn cefnogi ein hysbyty lleol.”

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn cefnogi’r Apêl neu arddangos un o’r blychau casglu ffonio Claire Rumble, Swyddog Codi Arian, ar 01267 239815 neu e-bostio fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/pph-gardens-appeal/.

Dilynwch ni: