Yn y llun uchod: Aelodau o Gymdeithas Aredig Gogledd Ceredigion gyda staff o'r uned gemotherapi.
Mae Cymdeithas Aredig Gogledd Ceredigion wedi codi £500 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Mae Cymdeithas Aredig Gogledd Ceredigion, a sefydlwyd ym 1961, yn trefnu cystadlaethau aredig a [phlygu gwrychoedd blynyddol i helpu i annog aredig a phlygu gwrychoedd.
Dywedodd Phyllis Harries, Ysgrifennydd: “Er na chynhaliwyd her benodol gennym, dros y blynyddoedd mae’r pwyllgor wedi codi arian trwy amrywiol ddigwyddiadau i gefnogi ein cystadleuaeth flynyddol.
“Codwyd arian gennym ar y cyd â phwyllgor y Sir i gynnal Pencampwriaeth Cymru yn 2023. Yn ein cyfarfod pwyllgor blynyddol, penderfynwyd yn unfrydol rannu’r elw o gynnal cystadlaethau dros y blynyddoedd gydag elusennau lleol.
“Eleni, cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Nhalybont diolch i haelioni teuluoedd Cynnullmawr a Neuaddfawr. Penderfynwyd rhoi’r elw i Uned Cemotherapi Bronglais oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cael yr adnodd hwn yn lleol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i Gymdeithas Aredig Gogledd Ceredigion am eu rhodd garedig iawn.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”