Yn y llun uchod: Staff Canolfan Adnoddau Cae’r Ffynnon gyda rhai o’r cyflenwadau gardd a brynwyd gyda chronfeydd elusennol
Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu cyflenwadau gardd ar gyfer y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yng Nghanolfan Adnoddau Cae’r Ffynnon yng Nghaerfyrddin.
Bydd y cyflenwadau gardd yn helpu i ddatblygu’r ardal awyr agored yn y ganolfan ymhellach a chreu gofod ar gyfer adsefydlu galwedigaethol, meithrin sgiliau ymarferol a therapi garddwriaethol.
Gall cleientiaid ddefnyddio'r gerddi i wella eu hiechyd meddwl, yn ogystal â'u hiechyd corfforol, cyfathrebu a sgiliau meddwl.
Dywedodd Karen Sharrock, Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r cyflenwadau gardd hyn.
“Mae’r ardal awyr agored yn darparu amgylchedd therapiwtig a thawel yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion ddysgu ac adeiladu ar eu sgiliau galwedigaethol gan ddefnyddio garddwriaeth fel y cyfrwng therapiwtig.
“Mae’r ardd yn brosiect parhaus sy’n rhan o gynllun gofal a thriniaeth y cleientiaid, gan alluogi adferiad ac annibyniaeth gyda’r nod o gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau a chysylltu â phrosiectau eraill yn y gymuned leol.”