Neidio i'r prif gynnwy

Côr roc a phop yn codi £3,000 i elusen y GIG

Llun: The Phil Harmonics 

 

Mae’r Phil Harmonics, côr roc a phop o Lanelli, wedi codi swm arbennig o £3,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.

Cynhaliodd y côr ei Gala flynyddol ar Orffennaf 1af yng Ngwesty’r Diplomat yn Llanelli i godi’r arian.

Dywedodd Sarah Mair, Sylfaenydd y Côr: “Sefydlais y côr naw mlynedd yn ôl yn benodol i godi arian at elusennau a chael ychydig o hwyl.

“Thema’r Gala eleni oedd ‘Rhythm y Nos’ a buom yn arddangos caneuon o’r 50au hyd heddiw. Roedd yn llawer o hwyl gyda llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa.

“Roedd y paratoi yn waith caled, gyda llawer o ymarferion ac ymarferion gwisg, ond mae'r cyfan yn werth chweil pan welwch chi gymaint o hwyl mae pawb yn ei gael wrth godi arian at achosion da.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau ac unigolion lleol a gefnogodd ein noson elusennol drwy gyfrannu gwobrau raffl, ac i Westy’r Diplomat am ein cynnal.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: