Neidio i'r prif gynnwy

Côr merched yn codi £1,000 ar gyfer uned gofal y fron

Yn y llun uchod: Aelodau Cor Lleisiau'r Werin gyda Diane Henry-Thomas, Swyddog Cefnogi Codi Arian.

 

Mae Cor Lleisiau'r Werin, côr merched o Lanybydder a'r ardal leol, wedi codi £1,000 ar gyfer Uned Gofal y Fron Ysbyty Tywysog Philip.

Mae'r côr, a ffurfiwyd yn 2004, yn cyfarfod yn wythnosol i berfformio amrywiaeth o ganeuon poblogaidd.

Dywedodd Anne Bellamy, Ysgrifennydd y côr: “Mae nifer o gyn-aelodau a phresennol y côr wedi derbyn triniaeth a gofal yn Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip. Mae’r codi arian a’r rhoddion yn ffordd o ddangos gwerthfawrogiad am y gofal gwych a ddarperir gan yr uned.

“Diolch i bawb a gefnogodd ein cyngerdd a chodi arian, a diolch i staff yr uned am y gofal gwych y maent yn ei ddarparu.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Gôr Lleisiau’r Werin am eu cyfraniad caredig.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: