Neidio i'r prif gynnwy

Côr meibion yn helpu i godi dros £4,000 ar gyfer uned ddydd cemotherapi

Yn y llun gyda thîm CDU o'r chwith i'r dde: Nigel Phillips, Jayne Phillips a Gareth Edwards

 

Mae Jayne Phillips wedi cael cefnogaeth Côr Meibion Hendy-gwyn ar Daf i godi £4,378.90 ar gyfer yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.

Codwyd yr arian drwy deithiau beics noddedig, te prynhawn ac arwerthiant elusen tei du fel diolch am y gofal a gafodd Jayne, gwraig i aelod o’r côr, fel rhan o’i thriniaeth, ar ôl cael diagnosis o ganser y fron yn 2019.

Dywedodd Jayne “Yn dilyn fy nhriniaeth, fe wnaeth fy ngŵr, Nigel, ac aelodau o Gôr Meibion Hendy-gwyn fy helpu i godi arian ar gyfer yr uned i roi rhywbeth yn ôl ar gyfer fy ngofal a thriniaeth anhygoel.

“Diolch i bawb a’n cefnogodd i gyrraedd y rhodd wych hon.”

Dywedodd Gina Beard, Prif Nyrs Ganser: “Am swm anhygoel o arian! Rydym mor ddiolchgar pan fydd y cyhoedd yn dewis cefnogi elusen ein bwrdd iechyd ac felly’r gwasanaethau sy’n darparu triniaethau canser. Gallwn ddefnyddio’r arian i gefnogi profiad gwell i gleifion.

“Mae’r arian a godir fel hyn yn cefnogi adnoddau fel llyfrau defnyddiol a therapi chwarae i blant pobl sy’n mynd drwy driniaeth canser, a gwelliannau yn amgylchedd yr uned sy’n ei wneud yn lle mwy cyfforddus i fynychu; ni fyddai pob un o’r rhain yn bosibl heb godwyr arian anhygoel.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Jayne a Chôr Meibion Hendy-gwyn ar Daf am eu rhodd hael.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: