Neidio i'r prif gynnwy

Côr meibion yn codi dros £7,000 i elusen y GIG

Yn y llun uchod: Meibion y Mynydd a Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian.

 

Mae Meibion y Mynydd wedi codi swm gwych o £7,200 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi a Ward Ystwyth yn Ysbyty Bronglais.

Côr meibion o bob rhan o ogledd Ceredigion yw Meibion y Mynydd, y mae ei aelodau yn cyfarfod, yn ymarfer ac yn trefnu cyngherddau.

Cynhaliodd y côr gyngerdd i ddathlu eu pen-blwydd yn 10 oed yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a’u barbiciw blynyddol ar Fferm Bryn Perffaith i godi arian.

Dywedodd Caryl Jones, Arweinydd Meibion y Mynydd: “Roedd llawer o’n haelodau yn teimlo ei bod yn iawn cefnogi’r uned cemo yn dilyn colli un o’n haelodau a hefyd oherwydd ei fod yn effeithio ar gymaint o bobl leol a’u teuluoedd.

“Yn yr un modd â’r Uned Strôc, mae’n effeithio ar gynifer o bobl yn ein cymuned felly roeddem eisiau cefnogi’r ward gyda’r gwaith gwych y maent yn ei wneud.

“Fel côr, hoffem ddiolch i’n holl noddwyr a chefnogwyr am eu cefnogaeth ddiflino. Rydym yn hynod o ffodus i gael cymuned glos sy’n ein cefnogi ym mhopeth a wnawn, gan ein galluogi i godi symiau gwych o arian i elusennau sy’n agos at ein calonnau.”


Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: