Neidio i'r prif gynnwy

Codwyd £800 ar gyfer tîm bydwreigiaeth profedigaeth yn Ysbyty Glangwili

Yn y llun uchod o'r chwith i'r dde: Ihab Abbasi, Ymgynghorydd Gynaecoleg; Rhys Munday, Molly Richards a Molly Taylor, Bydwraig

 

Mae Rhys Munday a Molly Richards wedi codi swm gwych o £800 ar gyfer y tîm bydwreigiaeth profedigaeth yn Ysbyty Glangwili.

Cododd Rhys a Molly yr arian er cof am eu mab, Kyler Rhys.

Bu farw Kyler Rhys yn wythnos 29 o gyfnod cario. Roedd y cwpl eisiau codi'r arian i ddiolch am y gofal gwych a gawsant yn ystod cyfnod anodd dros ben.

Meddai Molly: “Ar ôl beichiogrwydd cymhleth iawn, daeth ein bachgen bach Kyler Rhys i mewn i’r byd yn cysgu ar 18 Hydref 2022.

“Roeddwn i’n gallu aros yn yr ysbyty gyda fy mhartner a Mam a chefais y fraint o gael yr ystafell brofedigaeth i ni ein hunain, sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer teuluoedd sydd yn anffodus yn yr un sefyllfa â ni.

“Gwnaeth pob bydwraig a oedd yn gofalu amdanaf ein profiad mor gadarnhaol â phosibl. Ni fyddai ein taith fel teulu wedi bod hanner mor gadarnhaol ag yr oedd, ac roedd hyn yn wir oherwydd yr hyn a wnaeth y bydwragedd a’r staff i ni.”

Dywedodd Molly Taylor, Bydwraig, “Rydw i mor falch o Molly a Rhys a faint maen nhw wedi’i godi yn enw eu mab. Mae’n wirioneddol anhygoel, diolch.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: