Yn y llun uchod: Morgan a Wayne yn croesi llinell derfyn Penwythnos Cwrs Hir 2023.
Mae Morgan Slate, 28, o Lanelli, yn mynd i Ddinbych-y-pysgod i ymgymryd â digwyddiadau Penwythnos Cwrs Hir Cymru ac Ironman Cymru i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.
Mae Morgan yn ymgymryd â'r her enfawr er cof am ei ffrind, Wayne Evans. Fe wnaeth Wayne, a fu farw’n drist y llynedd, godi arian yn angerddol ar gyfer yr uned cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip i ddiolch am y gofal rhagorol a gafodd, a chwblhaodd ras 5k Cymru ym Mhenwythnos Cwrs Hir Cymru gyda thîm o deulu a ffrindiau ym mis Gorffennaf 2023.
Dywedodd Morgan: “Yn drist iawn, cafodd fy ffrind da Wayne ddiagnosis o ganser y pancreas yn 2022 a chollodd ei frwydr ddewr ar 9 Awst 2023, gan adael twll enfawr ym mywydau llawer ledled y gymuned.
“Roedd Wayne i fod i rasio Ironman Cymru yn 2022 ond yn anffodus oherwydd ei ddiagnosis nid oedd yn gallu sefyll ar y traeth ochr yn ochr â ni a chroesi’r carped coch.
“Er cof amdano, byddaf yn rasio Ironman Cymru yn 2024 gyda’r nod o gwblhau’r digwyddiad iddo. Bydd yn Ironman am byth i’r rhai sy’n ei adnabod, rwyf am fynd ag ef ar draws y carped coch hudolus hwnnw yr oedd yn ei haeddu.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am anfon pob lwc a diolch i Morgan wrth iddo ymgymryd â Penwythnos Cwrs Hir ac Ironman Cymru er cof am Wayne.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Gallwch gyfrannu at godwr arian Morgan yma:
https://www.justgiving.com/crowdfunding/morgan-slate?utm_term=6Ax6jynBM&fbclid=IwAR3sV8g1rPLcbTRDeK2que_MI-q8qCtoi3GSbytpDo1T2kroq7f4NbYCxQI