Neidio i'r prif gynnwy

Codi £16,700 i elusen y GIG er cof am David Gwynfor Lewis

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Sharon Groom, Uwch Brif Nyrs, Uned Ddydd Cemotherapi, Ysbyty Tywysog Philip;
Katie Phillips, Ffisiotherapydd; Emma Mulgrew, Nyrs Glinigol Arbenigol; Sue Gilly, Nyrs Staff, T
ŷ Bryngwyn; Owain Thomas, Ymgynghorydd Gofal Lliniarol; Alun Owens; Mark Thomas; Annmarie Thomas; Paula Eldridge;
Tina Butler, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Steve Eldridge.

 

Mae teulu David Gwynfor Lewis, a fu farw y llynedd, a’i gymuned leol, wedi codi’r swm anrhydeddus o £16,700 i’w helusen GIG leol er cof amdano.

Yn adnabyddus fel ‘Dai Coed Cyw’, derbyniodd David, o Lannon, ofal rhagorol yn Ysbyty Tywysog Philip a Hosbis Tŷ Bryngwyn. Mae ei deulu a’i ffrindiau wedi gweithio’n ddiflino i godi arian i Elusennau Iechyd Hywel Dda, yr elusen GIG leol, i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau cleifion eraill.

Mae’r cyfanswm yn cynnwys rhoddion yn lle blodau er cof am David, ac arian a godwyd gan nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd gan y gymuned leol, gan gynnwys:

  • Gwerthu cywion wyau Pasg gan Lewis Thomas
  • Her rhedeg 2022 gan Adrian a Diane Thomas
  • Her rhedeg Llwybr Arfordir Cymru gan Paula a Steve Eldridge
  • Diolchgarwch am y cynhaeaf a thaith tractorau gan CFfI Llannon
  • Twmpath dawns a drefnwyd gan Alun a Mandy Owens
  • Rhodd gan Bwyllgor Sioe Pontarddulais
  • Rhodd gan Y Lleng Brydeinig Frenhinol Bynea.

O’r £16,700 a godwyd, bydd £8,800 yn mynd i Hosbis Tŷ Bryngwyn a £7,900 i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Annmarie Thomas, chwaer David: "Hoffem ddiolch i deulu, ffrindiau a chymdogion am eu holl gefnogaeth i godi swm mor anhygoel er cof am David. Byddai David mor falch y gellir buddsoddi'r swm hwn o arian i gefnogi gofal a phrofiad cleifion. mewn dau wasanaeth a roddodd ofal eithriadol iddo.”

Dywedodd Emma Mulgrew, Nyrs Glinigol Arbenigol yn Ysbyty Tywysog Philip: “Rwyf i a’r tîm Gofal Lliniarol Arbenigol cyfan mor ddiolchgar am yr amser a’r ymroddiad y mae ffrindiau a theulu wedi’i fuddsoddi i godi arian er cof am David. Roedd yn anrhydedd cyfarfod a chefnogi David a’i deulu ar adeg mor anodd. Roedd David yn amlwg yn annwyl iawn ac yn uchel ei barch gan gynifer.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen GIG swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

Dilynwch ni: