Neidio i'r prif gynnwy

Co-op Tywyn yn codi £1,300 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Yn y llun gwelir: Stephanie Brazier, Arweinydd Tîm, Co-op Tywyn, yn cyflwyno siec o £1,300 i Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda.

 

Mae’r Co-op yn Nhywyn wedi codi swm arbennig o £1,300 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais. Cynhaliodd y siop nifer o weithgareddau rhwng mis Medi 2022 a mis Ionawr 2023 i godi’r arian a dangos eu cefnogaeth i’r uned cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais.

Roedd gweithgareddau codi arian yn cynnwys rafflau a bwrdd gydag eitemau a roddwyd yn hael iawn gan gwsmeriaid a chydweithwyr.

Dywedodd y Rheolwr Siop, Diana Lewis: “Roeddwn i eisiau codi arian ar gyfer yr Apêl oherwydd ym mis Awst 2021, cefais y newyddion dinistriol mai dim ond tri neu bedwar mis oedd gan fy mhartner i fyw. Yn anffodus, bu farw ym mis Tachwedd 2021.

“Yn ystod tri mis olaf ei fywyd roedd ganddo apwyntiadau ym Mronglais ac roedd y gofal a’r parch a ddangoswyd iddo drwy’r amser yn anhygoel. Roedd yn ddyn balch iawn a gofynnodd am gael mynd yno i farw gan nad oedd eisiau marw gartref, gan fod cartref yn lle hapus. Roedd y gofal a gafodd yn ardderchog a chafodd ei drin ag urddas a oedd mor bwysig iddo.

“Roeddwn i eisiau cefnogi’r Apêl er cof amdano.”

Dywedodd Robyn Papirnyk, cyn-weithiwr yn y siop: “Yn 2019, yn 33 oed, cefais ddiagnosis o diwmor gradd 3 yn fy mron. Cefais chwe mis o gemotherapi yn Ysbyty Bronglais. Roedd Dr Elin Jones a’i thîm yn anhygoel ac wedi fy nhrin â’r fath garedigrwydd.

“Ar fy ymweliad ar gyfer fy nghylch cyntaf o chemo cefais sioc o weld bod y ‘ward’ yn ystafell agored heb fawr o breifatrwydd, gyda chleifion yn cerdded drwodd i fynd i’r uned podiatreg a’r ysgol glun.

“Mae’r uned cemo yn rhan hanfodol o’n cymuned. Roedd y tîm cemo yno i mi yn fy nyddiau tywyllaf ac maent yn haeddu’r gydnabyddiaeth a’r cyfleusterau digonol y gallai ward newydd eu darparu. Dyna pam roeddwn i mor hapus i glywed bod Coop Tywyn yn cefnogi achos mor wych.”

Dilynwch ni: