Neidio i'r prif gynnwy

Clwb Pwerdy Penfro yn codi £7,000 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Vanessa Ircha, Chwaer Cath Ircha; Judy Wickland, Mam Cath; Tony Griffiths, Rheolwr y Clwb; Ffion Thomas, Nyrs Gofrestredig; Tracy Horobin, Nyrs; Lynsey Mason, HCSW a Myfyriwr Nyrsio; Eve Owen, HCSW; Rebecca Jones, Prif Nyrs Iau a Dave Owen, Cadeirydd y Clwb.


Mae aelodau o Glwb Pwerdy Penfro wedi codi £7,000 ar gyfer Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg.

Cododd y clwb yr arian drwy gynnal Sialens Bwced Iâ ym mis Rhagfyr 2022, ar ddiwrnod oeraf y flwyddyn.

Codwyd yr arian er cof am eu hannwyl aelod, Cath Ircha, a fu’n gweithio yn y clwb am 20 mlynedd. Yn anffodus bu farw Cath ym mis Medi 2022, ac roedd wedi derbyn gofal eithriadol ar y ward.

Dywedodd Tony Griffiths, Rheolwr y Clwb: “Roedd Cath yn aelod annwyl o’r clwb. Roedden ni eisiau codi arian i Ward 10 i ddweud diolch am wneud ei dyddiau olaf mor gyfforddus. Diolch enfawr i’n holl aelodau am helpu i godi’r arian.”

Dywedodd Rebecca Jones, Prif Nyrs Iau: “Ar ran Ward 10, hoffwn ddiolch unwaith eto i Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Pwerdy Penfro am y rhodd hynod hael.

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael gofalu am gleifion oncoleg a lliniarol, yn ogystal â chefnogi teuluoedd a ffrindiau trwy gyfnod mor anodd. Rydym yn hynod ddiolchgar y bydd yr arian hwn yn cyfrannu at sicrhau bod ein cleifion yn cael y gofal rhagorol y maent yn ei haeddu a gwneud eu harhosiad gyda ni mor gyfforddus â phosibl.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Tony ac aelodau’r clwb am eu rhodd hael.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: