Neidio i'r prif gynnwy

Clwb ffermwyr ifanc yn codi dros £1,000 i elusen y GIG

Yn y llun uchod: Aelodau CFfI Dyffryn Cothi.

 

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi wedi codi £1,600 i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r clwb ffermwyr ifanc wedi ei leoli ym Mhumsaint gydag aelodau rhwng 11-24 oed. Mae'r clwb yn cyfarfod yn wythnosol ac mae aelodau'n cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau.

Dywedodd Anna Davies, Cadeirydd ac Ysgrifennydd y CFfI: “I godi arian, bu aelodau CFfI Dyffryn Cothi yn helpu yn yr hanner marathon lleol, wedi cael casgliad yn ein Diolchgarwch Cynhaeaf ac yn canu carolau. Mae bob amser yn hwyl dod ynghyd mewn gwahanol ddigwyddiadau i godi arian.

“Mae’r elusen yn agos at bawb yn y clwb a’r gymuned am wahanol resymau, mae’n elusen a fydd o fudd i ni fel aelodau nawr ac yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau a’r gymuned am gyfrannu at elusen mor bwysig. Fel cadeirydd ac ysgrifennydd, rwy’n falch o’n clwb bach am godi swm da i elusen Gymraeg leol.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym mor ddiolchgar am y codi arian gwych gan CFfI Dyffryn Cothi.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: