Yn y llun uchod: Gwen Jones, Cadeirydd Clwb Lles a Chinio Gogledd a Chanolbarth Cymru Barclays; Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian a Mark Powell, Arweinydd Codi Arian Elusennol ar gyfer Clwb Lles a Chinio Gogledd a Chanolbarth Cymru Barclays.
Mae Clwb Lles a Chinio Gogledd a Chanolbarth Cymru Barclays wedi codi swm gwych o £3,350 ar gyfer yr Uned Dydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
Mae Clwb Lles a Chinio Gogledd a Chanolbarth Cymru Barclays yn bwyllgor angerddol sy'n trefnu ac yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Cerddodd y clwb o'r Waun i Drefyclo, oedd tua 36 milltir, dros dridiau i godi'r arian.
Dywedodd Mark Powell, Arweinydd Codi Arian Elusennol y clwb: “Fe wnaethon ni gerdded, cerdded a dringo tri cham Llwybr Clawdd Offa gyda dringo cyfanswm o 6200 troedfedd. Bron yn cyfateb i ddringo'r Wyddfa ddwywaith!
“Roedd yn boeth iawn, ond roedd gennym ni dîm cefnogi gwych.
“Diolch enfawr i bawb am eich anogaeth, nawdd a rhoddion.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”