Neidio i'r prif gynnwy

Chwe set deledu ar gyfer Glangwili a brynwyd diolch i roddion elusennol

Yn y llun gwelir (Ch-Dd): Alys Thomas, Emily Price, Cath Jeremiah a Julie George.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu chwe set deledu ar gyfer Ward Preseli yn Ysbyty Glangwili.

Mae Ward Preseli yn ward 15 gwely ar gyfer cleifion llawfeddygol.

Dywedodd Vicky Thomas, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu chwe set deledu newydd ar gyfer Ward Preseli.

“Does dim setiau teledu ar y ward ar hyn o bryd. Gall cleifion deimlo'n unig iawn pan fyddant i ffwrdd oddi wrth eu teulu a'u ffrindiau am gyfnodau estynedig. Bydd y setiau teledu newydd yn helpu i basio’r amser ac yn tynnu sylw oddi wrth y problemau y gallent fod yn eu hwynebu.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: