Llun 1: Staff o Adran Cleifion Allanol Llwynhelyg Llun 2: Staff o SDEC Llwynhelyg.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu dwy System Canfod Gwythiennau Llaw ar gyfer yr Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) ac Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Llwynhelyg.
Ar adegau, oherwydd cyflwr meddygol neu bryder claf, mae staff yn cael anhawster cymryd eu gwaed. Bydd yr offer canfod gwythiennau newydd, gwerth dros £9,000, o fudd mawr i gleifion a staff drwy leihau nifer yr ymdrechion aflwyddiannus i gymryd gwaed.
“Mae’r ddwy adran yn aml yn tynnu gwaed, ac mae angen i SDEC roi canwlâu i gleifion cyn dechrau triniaeth. Mae SDEC yn blaenoriaethu ymyriadau cynnar i atal derbyniadau i’r ysbyty, a gallai unrhyw oedi wrth ddechrau triniaeth rwystro’r amcan hwn.
“Bydd y systemau canfod gwythiennau o fudd mawr i gleifion. Yn aml, caiff cleifion eu cyfeirio at SDEC gan eu meddyg teulu oherwydd eu cyflwr meddygol a gallant fod yn eithaf pryderus. Os yw staff yn ei chael hi'n anodd cymryd gwaed a gosod caniwla, mae pryder y claf yn debygol o gynyddu, gan ohirio dechrau eu triniaeth o bosibl. Mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn hanfodol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaethau a staff.