Neidio i'r prif gynnwy

Bydd manicin babi newydd yn helpu i hyfforddi staff ar adfywio newyddenedigol

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu manicin CPR babi ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth Hywel Dda.

Bydd y manicin yn helpu i ddarparu hyfforddiant i fydwragedd a staff gofal iechyd bob blwyddyn sicrhau eu bod wedi’u hyfforddi’n briodol i ddarparu adfywio newyddenedigol.

Dywedodd Faith Worrall, Goruchwyliwr Clinigol Bydwragedd: “Rydym yn hynod falch bod cronfeydd elusennol wedi helpu i ariannu’r manicin newydd hwn.

“Mae cynnal bywyd newydd-anedig yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob nyrs, bydwraig, meddyg a gweithiwr cymorth gofal iechyd sy’n darparu gofal i fabanod newydd-anedig. Ni ellir bob amser ragweld yr angen am adfywio adeg geni ac felly, mae’n hanfodol bod pob aelod o staff yn mynychu hyfforddiant i allu diwallu anghenion babanod newydd-anedig ar adeg eu geni.

“Bydd y manicin hwn yn cefnogi gwell hyfforddiant ac efelychu a fydd yn ei dro yn helpu i wella ein gwasanaeth i fabanod newydd-anedig ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: