L-R: Ffisiolegwyr Cardiaidd Rhys Bowen, Teleri Cudd, Rebecca Hearse-Morgan
a Lauren Richards
Diolch i gymynrodd hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu offer newydd gwerth dros £200,000 i gleifion cardioleg yn Ysbyty Llwynhelyg.
Bydd y ddau beiriant ecocardiograffeg ar gyfer Adran Gardio-Anadlol yr ysbyty yn helpu i leihau rhestrau aros ar gyfer sganiau a hefyd yn galluogi ecocardiogramau i gleifion mewnol i gael eu gwneud yn gynt, a fydd yn helpu’n sylweddol gyda rhyddhau cleifion o’r ysbyty.
Mae'r offer ychwanegol hwn yn ychwanegol at werth £110,000 o beiriannau a brynwyd o'r un gymynrodd ar gyfer yr Adran Iechyd Plant fel y gall cleifion dan 16 oed yn Sir Benfro barhau i gael sgrinio cardioleg hanfodol mor agos i'w cartrefi â phosibl.
Gwnaed y gymynrodd yn garedig gan y diweddar Mrs GWJ Thomas, er budd gofal coronaidd yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd Ffisiolegydd Cardiaidd Teleri Cudd: “Bydd peiriannau adlais newydd, cyfoes yn galluogi gweithwyr i weithio’n gyflymach a chynyddu cynhyrchiant o fewn y gweithle.
“Er mwyn cynnal darpariaeth gwasanaeth, mae buddsoddi mewn offer newydd, dibynadwy a modern mor bwysig.
“Mae ecocardiograffeg yn ganolog i asesu a rheoli pob clefyd cardiaidd a, gyda mwy o beiriannau, bydd cleifion yn aros llai o amser am ddiagnosis.”
Oherwydd COVID-19, mae ôl-groniad o gleifion allanol yn aros am ecocardiogramau ond gyda pheiriannau ychwanegol, gall sonograffwyr gynnal mwy o sganiau ar yr un pryd i helpu i leihau rhestrau aros.
Bydd y peiriannau newydd hefyd yn galluogi clinigau uwch i barhau i gael eu cynnal ochr yn ochr â'r clinigau cleifion allanol a chleifion mewnol arferol a brys.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”