Neidio i'r prif gynnwy

Bore coffi a raffl yn codi dros £1,000 i Ysbyty Bronglais

Yn y llun uchod: Rachel McCready, Uwch Brif Nyrs; Heledd Lloyd; Emily Morrell, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; a Sandi Jamieson, Ymarferydd Iechyd Meddwl.

 

Mae Heledd Lloyd wedi codi dros £1,000 i Gorwelion, yr Uned Llawfeddygaeth Ddydd a’r Clinig Gynaecoleg yn Ysbyty Bronglais.

Cynhaliodd Heledd fore coffi a chacennau yng Nghanolfan Morlan ar 28 Hydref 2023, gyda ffrindiau a theulu yn pobi ac yn cyfrannu cacennau.

Trefnodd Heledd raffl hefyd gyda gwobrau a roddwyd gan fusnesau lleol megis Skin Deep, Siop Inc a Currys Aberystwyth.

Meddai Heledd: “Aeth llawer o gynllunio i mewn i’r diwrnod, dwi erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o’r blaen. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda phopeth yn dod at ei gilydd.

“Diolch i bawb a gynigiodd eu cefnogaeth a’u hamser, o’r bobl a bobodd gacennau a rhoi gwobrau i’r bobl a fynychodd ar y diwrnod ac a gyfrannodd yn hael.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: