Neidio i'r prif gynnwy

Arwerthiant cacennau yn codi £1,000 i wasanaeth canser y pen a'r gwddf yn Sir Gaerfyrddin

Mae Nicola Martin-Davies a’i chydweithwyr yn Ysgol Penygroes wedi codi £1,000 ar gyfer Gwasanaeth Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili. 

Yn ddiweddar, derbyniodd Nicola, cynorthwyydd addysgu, ofal eithriadol gan dîm Gwasanaeth Canser y Pen a’r Gwddf.

Yn ystod tymor yr haf ysgol 2022, penderfynodd staff Ysgol Penygroes godi arian ar gyfer y gwasanaeth drwy bobi a gwerthu cacennau.

Dywedodd Nicola: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi codi £1,000, er nad oeddwn yn gallu bwyta cacen ar y pryd.”

Dywedodd Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf: “Hoffai Tîm Canser y Pen a’r Gwddf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch o galon i Nicola a’i chydweithwyr.

“Bydd y rhoddion hael hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer i gleifion canser y pen a’r gwddf a’u teuluoedd cyn ac ar ol triniaeth, yn ystod eu hadferiad ac adsefydlu hirdymor, a darparu cymorth i'n cleifion lliniarol.”

Dilynwch ni: