Neidio i'r prif gynnwy

Ariannu cadeiriau erchwyn gwely newydd ar gyfer ward strôc Bronglais

Yn y llun gwelir: Staff Ward Ystwyth.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu cadeiriau erchwyn gwely newydd ar gyfer Ward Yswyth, y ward strôc, yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Claire Durant, Gweinyddwr Ward: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion hael yr ydym wedi’u derbyn sydd wedi ein galluogi i brynu’r cadeiriau newydd hyn.

“Bydd y cadeiriau hyn yn rhoi cymorth i gleifion, adsefydlu a chysuro. Mae'r cadeiriau'n hawdd eu symud, yn lân ac yn gefnogol i gleifion o bob oed a gallu. Maent yn amhrisiadwy i’r cleifion ac yn annog adsefydlu a’r gallu i eistedd allan o’r gwely yn gyfforddus.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: