Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu eitemau garddio ar gyfer Ward St Non, Ward Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn yn Ysbyty Llwynhelyg.
Talodd arian elusen y GIG am welyau gardd uchel, baddon adar, tŷ gwydr, potiau planhigion, troellwyr gwynt a chan dyfrio.
Dywedodd Lara Schmidt, Therapydd Galwedigaethol: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r eitemau hyn ar gyfer Ward St Non.
“Bydd yr offer garddio yn galluogi ein tîm Therapi Galwedigaethol, sydd â grŵp garddio yn Ward St Non, i ddarparu profiad cadarnhaol i gleifion.
“Bydd y sesiynau garddio yn darparu buddion symud, synhwyraidd, emosiynol, gwybyddol a chymdeithasol i’r oedolion hŷn ar y ward.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.