Yn y llun uchod: Eirian Gravell, Nyrs Haematoleg Arbenigol; Dianne Walters; Mike Binks; Susan Peck; Elen Rees; Alun Jones a Rhian Jones, Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg Macmillan.
Mae Aduniad Hanner Canmlwyddiant Ysgol Uwchradd Dinas wedi codi £900 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Trefnodd hen ffrindiau ysgol oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Fodern Dinas yr aduniad a gynhaliwyd yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Hydref 21ain.
Fe wnaethon nhw godi arian i'r uned gan fod nifer o gyn-ddisgyblion wedi cael triniaeth am ganser.
Dywedodd Dewi Alun Jones, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Fodern Dinas: “Roedd yna gerddoriaeth fyw, disgo a raffl. Roedd yn braf siarad â hen ffrindiau wrth werthu’r tocynnau raffl.
“Diolch i bawb a ddaeth i’r parti a’r rhai a roddodd o’u hamser i’w drefnu.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”