Neidio i'r prif gynnwy

Mis Ewyllys Am Ddim

Mae Mis Ewyllysiau Am Ddim yn cynnig cyfle i chi ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am ddim yn ystod mis Hydref 2024.

Mae mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys gyfredol i’w diweddaru. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Bydd hyd yn oed rhodd o 1% o'ch ystâd i Elusennau Iechyd Hywel Dda yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran darparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer.

Nifer cyfyngedig o leoedd ysgrifennu ewyllys sydd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Gellir ysgrifennu'r ewyllysiau ar-lein neu dros y ffôn gyda'r darparwr ewyllys dibynadwy, Farewill, a gall gymryd llai na 30 munud.

I gymryd rhan yn Mis Gwneud Ewyllys, dilynwch y camau syml hyn:

1. Cliciwch yma i ddechrau ysgrifennu eich ewyllys. Bydd cod taleb yn cael ei roi’n awtomatig.

2. Cwblhewch eich ewyllys am ddim. Gallwch arbed ar unrhyw adeg a mynd yn ôl a'i gwblhau.

3. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch, gallwch ffonio tîm Farewill saith diwrnod yr wythnos.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01267 239815 neu e-bostiwch Codiarian.HywelDda@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: