Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ (agor mewn dolen newydd)
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet (agor mewn dolen newydd) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch â CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysyllt â chi mewn 10 diwrnod.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: CodiArian.HywelDda@wales.nhs.uk
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd trwy RelayUK (agor mewn dolen newydd). Os oes angen i chi gysylltu ag un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun hwn, deialwch 18001 cyn y rhif ffôn yr ydych am gysylltu ag ef.
Mae gan rai o'n hysbytai / swyddfeydd ddolenni sefydlu sain, ac os byddwch chi'n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Os nad yw'ch ymweliad wedi’i drefnu ymlaen llaw, gallwn drefnu Dehonglydd BSL ar-lein.
Cysylltwch â’r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar:
Rhif ffôn: 18001 (os yn defnyddio Relay UK) ac yna 01554 899055
Ebost: Inclusion.hdd@wales.nhs.uk
Yn y post:
Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Partneriaethau Strategol, Bloc 6, Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli SA14 8QF
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 (agor mewn dolen newydd), oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.
Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.
Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis 30 Medi 2021, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (agor mewn dolen newydd) os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd (agor mewn dolen newydd). Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym dogfennau PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 (agor mewn dolen newydd) os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio [enghraifft o ddogfen nad yw’n hanfodol].
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni’r safonau hygyrchedd.
Fel sefydliad, rydym yn:
Byddwn yn:
Paratowyd y dudalen hon ym mis Ebrill 2021, wedi'i adolygu ym mis Ebrill 2022. Cynhelir yr adolygiad nesaf ym mis 30 Medi 2022.
Paratowyd y datganiad hwn yn 01/2023, a adolygu yn 01/2024.
Profwyd y wefan hon yn gyntaf ym mis Rhagfyr 2019 ac yna ailbrowyd ym mis Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.