Neidio i'r prif gynnwy

Triawd codi arian yn codi swm gwych o £27,500 ar gyfer yr uned cemotherapi yn Llwynhelyg

Yn y llun, o'r chwith i'r dde: Codwyr arian Marc, Guto a Llŷr yn cyflwyno'r siec o £27,500 i Liliana Guta, Uwch Brif Nyrs; Holly Golden, Arbenigwr Nyrsio Haematoleg dan Hyfforddiant; Jenny James, Uwch Brif Nyrs; Georgia Savage, Nyrs Staff; Amy Rees-Thomas, Nyrs Staff.

 

Mae’r brodyr Llŷr a Guto Edwards a’u cefnder Marc Phillips o Grymych yn Sir Benfro wedi codi’r swm anhygoel o £27,500 ar gyfer Uned Ddydd Haemotoleg ac Oncoleg Penfro (PHODU) yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

Cwblhaodd Guto a Marc her pellter ‘Ironman’ dros dridiau yn ystod gŵyl banc y Pasg i godi arian. Roedd y digwyddiad, a elwir yn Her Curo Cancr, yn cynnwys nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir a marathon 26.2 milltir.

Trefnodd y tri hefyd gyngerdd gydag arwerthiant a raffl yng nghlwb rygbi Crymych ar y dydd Sul ar ôl yr her.

Dywedodd Guto: “Ym mis Ebrill 2022, cafodd Llŷr ddiagnosis o lymffoma Hodgkin – canser y nodau lymff. Ers hynny, mae wedi derbyn gofal a thriniaeth wych yn Ysbyty Llwynhelyg a Singleton, Abertawe, gan gael cemotherapi a radiotherapi.


“Fel teulu fe benderfynon ni godi arian ar gyfer yr uned ddydd haematoleg a chemotherapi yn Llwynhelyg.”

Dywedodd Llŷr: “Rydym mor ddiolchgar i bawb a gyfrannodd, mae’r cyfanswm a godwyd wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau. Gobeithiwn y bydd yr arian yn helpu’r uned i barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol, yn union fel y cefais yr adeg hon y llynedd.

“Rydym yn diolch i bawb o waelod ein calonnau: y bobl a gyfrannodd eitemau i helpu Guto a Marc i gwblhau’r her, a hefyd y rhai a helpodd gyda’r cyngerdd. Mae’r rhestr yn rhy hir i ddiolch i bawb, ond heb eich cymorth chi, ni fyddai’r her hon wedi bod mor llwyddiannus.

“Diolch oddi wrthyf, Guto, Marc a’n teuluoedd.”

Dywedodd Jenny James, Uwch Brif Nyrs: “Gan holl staff yr uned, diolch yn fawr iawn i Llŷr, Guto a Marc am godi swm aruthrol o arian i’r uned. Diolch am eich holl amser, trefniadaeth, ac ymdrechion wrth gynllunio'r her a'r digwyddiadau. Llongyfarchiadau mawr i Guto a Marc am gwblhau’r her hefyd.

“Bydd yr offer newydd y byddwn yn gallu ei brynu gyda’r arian yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cleifion.”

Dilynwch ni: