Yn y llun uchod: Abbi Daniel-Thomas. Uwch Reolwr Nyrsio (chwith) a Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio
Mae staff o'r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer gardd yr ICU.
Mae Uwch Reolwyr Nyrsio Abbi Daniel-Thomas, a Nerys Davies, Ffisiotherapydd Cymunedol Catrin Ladbrook a staff eraill o’r ICU yn Ysbyty Glangwili i gyd yn rhedeg yr hanner marathon ar 1 Hydref 2023.
Bydd yr ardd yn cefnogi cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ICU gyda'u taith adsefydlu a lles i adferiad. Bydd yn rhoi hwb therapiwtig i gleifion, gan roi ymdeimlad o normalrwydd iddynt a'u hanwyliaid.
Mae’r ardd yn caniatáu amser i ffwrdd o’r ardal glinigol, gan ddarparu gofod heddychlon i gwrdd â theulu a ffrindiau a hefyd cyfle i weld eu hanifeiliaid anwes cariadus. Bydd yr ardd hefyd yn lle heddychlon i staff fyfyrio ar ymarfer a bydd yn cefnogi eu lles.
Mae tystiolaeth i awgrymu y gall ymweliad awyr agored wella iechyd seicolegol a chefnogi lles corfforol yn ystod cyfnod a all fod yn straen ac yn anodd iawn.
Dywedodd Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rwyf i, Abbi, Catrin a chydweithwyr o ICU yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd eleni i herio ein hunain a chodi arian ar gyfer prosiect arbennig.
“Rydym am i’r arian fynd tuag at gyflawni ein breuddwyd o adeiladu gardd ICU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu ei mwynhau. Dyma’r tro cyntaf i rai ohonom gymryd rhan mewn hanner marathon, felly mae’n mynd i fod yn anodd, ond rydym yn edrych ymlaen at wthio ein hunain. Bydd unrhyw roddion yn cael eu derbyn yn ddiolchgar. Diolch!"
Gallwch gyfrannu at y codwr arian yma: https://www.justgiving.com/fundraising/Nerys-Davies8