Neidio i'r prif gynnwy

Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn rhoi £1,250 i Uned Gofal Arbennig i Fabanod

Yn y llun chwith-dde: Katie Froggatt; Nyrs Staff, Catherine Regola; Nyrs Staff, Jenny Smith; Nyrs Staff, Sandra Pegram; Rheolwr yr Uned, Atheer Abdulameer; Pediatregydd Ymgynghorol, Louise Hughes; Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd and Claire Rumble; Swyddog Codi Arian.

 

Mae Ford Gron Dinbych-y-pysgod wedi rhoi £1,250 i'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Pan aned mab Edward Spence, cyn-Gadeirydd Ford Gron Dinbych-y-pysgod, fis Ebrill diwethaf, treuliodd sawl awr yn SCBU.

Derbyniodd ofal a chymorth eithriadol gan y gwasanaeth, a dyna pam roedd y grŵp eisiau rhoi i’r uned.

Meddai Edward: “Mae Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn grŵp o wirfoddolwyr sy’n codi arian drwy gydol y flwyddyn i gefnogi amrywiaeth o achosion ac elusennau lleol a chenedlaethol.


“Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod a’i staff gwych gyda rhywfaint o elw ein Summer Spectacular a gynhelir gennym bob haf yn Harbwr Dinbych-y-pysgod.”

Dywedodd Bethan Odmundson, Uwch Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ford Gron Dinbych-y-pysgod am eu rhodd garedig. Mae tîm SCBU ar hyn o bryd yn gweithio ar nifer o brosiectau y bydd ein rhoddion elusennol yn eu hariannu.

“Bydd y rhodd garedig gan Ford Gron Dinbych-y-pysgod yn cael ei ddefnyddio i brynu nifer o eitemau a fydd yn cyfoethogi profiad teuluoedd, er enghraifft, pecynnau gofal; eitemau i ddiwallu anghenion amrywiol teuluoedd yn ystod eu cyfnod yn yr uned ac i wneud eu harhosiad mor gyfforddus â phosibl; ystafell newydd i rieni a theuluoedd, a theganau meddal.

“Mae’r tîm yn rheolaidd yn prynu amrywiaeth o deganau meddal cyfatebol sy’n cael eu cynnig i deuluoedd pan fydd cyfnod o wahanu ac nad yw rhiant yn gallu bod gyda’i faban am resymau iechyd. Cedwir un tegan gan y rhieni a chedwir yr un paru gyda’r babi, gan roi cysur i’r teuluoedd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch enfawr i Edward a Ford Gron Dinbych-y-pysgod am eu rhodd wych.


“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: