Yn y llun uchod: Adam Simson, Donna Phillips, Jay Crouch, Josh Herman, Fae Green, Calum Boyle a Becky Walters.
Dringodd Josh Herman her Tri Chopa Cymru mewn cit tân llawn gydag offer anadlu ar ei gefn a chododd £580 i ganolfan iechyd meddwl Swn-Y-Gwynt yn Rhydaman.
Dringodd Josh Ben y Fan, Cadair Idris a’r Wyddfa i godi’r arian, ac ymunodd cymysgedd o bersonél gweithredol ac anweithredol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ag ef.
Wrth gymryd rhan yn Her Tri Chopa Cymru, dangosodd y Rheolwr Grŵp Phil Morris a’r Diffoddwr Tân Ar Alwad Darren Davies ddewrder eithriadol ac ymrwymiad i ddiogelwch trwy gludo person anafedig am dros dair milltir.
Dywedodd Josh: “Diolch i bawb wnaeth fy nghefnogi gyda’r her yma. Yr ail fynydd, Cadair Idris, oedd yr un anoddaf i’w goncro ond gyda’r cymhelliant a’r egni gan y tîm o’m cwmpas, fe gyrhaeddais y copa.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Josh. Rydyn ni wedi’n hysbrydoli gymaint gan ein codwyr arian a’r heriau anhygoel maen nhw’n eu cymryd i gefnogi gwasanaethau GIG lleol.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”