Yn y llun uchod (o’r chwith i’r dde): Dr Rhian Fuge, Dawn Bowen, Neil O’Brien, Marie Williams, David Hunter, Olivia Evans a Charlotte Evans.
Mae Tîm N2S yn grŵp o ffrindiau triathlon a chyn cydweithwyr Wayne Evans. Maent o bob oed a gallu ac maent i gyd yn dod o Lanelli, er i ddau berson o Country Durham hefyd deithio lawr i ymuno â’r her.
Aeth y tîm ar y beic ar 24 a 25 Awst 2024. Fe wnaethon nhw seiclo o Fangor yng ngogledd Cymru i Lanelli yn ne Cymru dros y ddau ddiwrnod.
Dywedodd Sara O’Brien, Aelod o Dîm N2S: “Ym mis Awst 2022, cafodd Wayne Evans ddiagnosis o ganser y pancreas datblygedig. Roedd i fod i gwblhau Ironman Cymru ym mis Medi ond yn anffodus ni allai.
“Er gwaethaf cyfnod hynod heriol, roedd Wayne yn benderfynol o barhau i ddilyn ei angerdd am driathlonau ac aeth ymlaen i gwblhau Triathlonau Abertawe a Llanelli fel rhan o dîm lle rhedodd a cherdded y 5k a chodi arian wrth wneud hynny.
“Fel ffrindiau a chydweithwyr Wayne a gafodd eu hysbrydoli gan ei gryfder a’i benderfyniad, fe wnaethom herio ein hunain trwy seiclo o ogledd i dde Cymru ym mis Awst 2023, gan godi dros £3,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
“Yn dilyn y daith lwyddiannus y llynedd, fe benderfynon ni ymgymryd â’r her eto i godi arian at elusennau lleol sy’n cefnogi ein cymuned, er cof am ein ffrind annwyl, Wayne.
“Aeth yr arian a godwyd eleni i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, Banc Bwyd Ymddiriedolaeth Myrtle House Trussell a Chymorth Canser Macmillan, sydd i gyd wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau yn Llanelli a’r cyffiniau.
“Roedd y daith yn galed ar adegau. Tywydd anodd a drychiad heriol, ond buom yn gweithio fel tîm i dynnu ein gilydd drwodd. Teimlad anhygoel oedd croesi’r llinell derfyn yn Llanelli lle’r oedd enfys yn ein disgwyl.
“Diolch i bawb sydd wedi rhoi. I'n gyrwyr cerbydau cymorth anhygoel, Steve, Phil a Vaughan a'n cadwodd yn ddiogel, yn llawn cymhelliant yr holl ffordd o Fangor. I Dave ac Edward am gludo'r holl feiciau i fyny'n ddiogel. Cymerodd Edward ddiwrnod o wyliau blynyddol hyd yn oed i'n helpu gyda hyn, gan wneud y daith gron 300 milltir i gyd mewn un prynhawn. I Emma Bird am ei gwasanaethau ioga a thylino bendigedig. I Charlotte, Olivia a Ben, teulu Wayne. I'r holl deulu a ffrindiau a ddaeth i gefnogi ar y ffordd ac ar y diwedd. Ac i’n noddwyr gwych, Burns Pet Nutrition, Picton Sports Ltd., Innovative Resource Solutions, Nolan Upvc, Bassetts Nissan Abertawe, Coastal Electrical, Bryn Breakfast, MD Home Maintenance, L&I Motors, Celtic Therapy & Rehab Services, JTS Test Chambers a DAYS Rental.”
Dywedodd Dr Rhian Fuge, Haematolegydd Ymgynghorol: “Roedd yn bleser cyfarfod â rhai o’r cyfranogwyr a gymerodd ran yn y daith seiclo epig hon o ogledd i dde Cymru ym mis Awst eleni. Rydym mor ddiolchgar am yr arian a godwyd ar gyfer yr Uned Cemotherapi sy'n mynd tuag at ddarnau hanfodol o offer a ddefnyddir bob dydd gan ein cleifion i wella eu profiad yn ystod triniaeth cemotherapi.
“Mae pob math o ymarfer corff mor fuddiol o ran helpu adferiad a lles y rhai sy’n cael triniaeth neu’n byw gyda chanser ac rwy’n mawr obeithio y bydd y daith seiclo o ogledd i dde Cymru, er cof am Wayne, yn dod yn ddigwyddiad blynyddol. Efallai y byddaf hyd yn oed yn ymuno â nhw y flwyddyn nesaf!”
Dywedodd Diane Henry-Thomas, Swyddog Cymorth Codi Arian; “Diolch i bob aelod o Dîm N2S am ymgymryd â’r her hon eto ar gyfer achos mor deilwng.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”