Neidio i'r prif gynnwy

Tad yn gwneud heic 24 awr i godi arian ar gyfer Uned Gofal Arbennig i Fabanod

Yn y llun uchod: Cala-Mai Thomas.

 

Bydd Hefin Thomas yn dringo Cadair Idris am 24 awr i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae Hefin yn ymgymryd â'r her ar 2 Mai 2025.

Meddai: “Ar y 1af o Fai 2018, cafodd fy merch, Cala-Mai, ei geni chwe wythnos cyn pryd. Ers hynny, mae hi wedi tyfu i fod yn ferch lachar ac iach. Roedd y gofal a gafodd gan y staff ar y ward yn anhygoel.

“Ni allaf ddiolch digon i’r staff am ofalu am Cala-Mai a’n teulu yn ystod ein hamser yn yr ysbyty. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud ers tro ac mae’n ffordd i ni roi rhywbeth yn ôl fel diolch am eu holl waith caled. Diolch.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i Hefin ar ei her 24 awr.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gyfrannu at godwr arian Hefin, ewch i: https://www.justgiving.com/page/hefin-thomas-1736368631572

Dilynwch ni: