Yn y llun: Nyrsys yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili gyda Super Scarves
Mae 172 o sgarffiau gwerth £7,000 wedi cael eu rhoi i Unedau Dydd Cemotherapi yn Ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg gan y manwerthwr dillad Scamp & Dude.
Mae'r Super Scarves yn cael eu dosbarthu i gleifion cemotherapi, y bydd rhai ohonynt yn profi colli gwallt yn ystod eu triniaeth, i ychwanegu sblash o liw a llawenydd i'w diwrnod.
Dywedodd Kate, Pennaeth elusen o Scamp & Dude: “Gyda chefnogaeth ein cwsmeriaid rydym hyd yma wedi rhoi dros 50,000 o Super Scarves i fenywod mewn angen.
“Fe wnaethon ni lansio ein #SuperScarfMission i roi Super Scarf i bob menyw ar draws y DU sy’n dechrau cemo, fel y gallwn ni eu lapio mewn cariad a dangos iddyn ein bod yn eu cefnogi”
Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Ar ran cleifion a staff ar draws rhanbarth Hywel Dda, hoffem ddiolch yn fawr iawn i Scamp & Dude a’u cwsmeriaid hael am y rhodd wych hon.
“Bydd derbyn un o’r sgarffiau hardd hyn yn ystod cyfnod heriol a gwybod bod rhywun yn meddwl amdanoch yn gymaint o hwb i’n cleifion.”
Yn y llun: Nyrsys yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip gyda Super Scarves
Yn y llun: Nyrsys yn Ysbyty Llwynhelyg gyda Super Scarves
Yn y llun: Claf cemotherapi o Geredigion, Clare Richard, gyda Super Scarves