Mae Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol wedi penderfynu, yn 63 oed, ei bod hi'n bryd her newydd.
Bydd Mandy Doble, sy'n gweithio i'r Clinigau Cymunedol yn Ysbyty De Sir Benfro, yn ymgymryd â her neidio allan o awyren yn Abertawe ar 18 Ebrill, i gyder budd elusen.
Bydd Mandy yn codi arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n cefnogi'r Clinigau Cymunedol.
Dywedodd: "Yn 63 oed, rydw i wedi penderfynu ei bod hi'n bryd am antur go iawn!
"Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at wella gofal cleifion, cysur a phrofiad i'r bobl sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau bob dydd. Mae'r her yn enfawr i mi - cyffrous ac ychydig yn frawychus ond yn hollol werth chweil os yw'n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cleifion."
Ychwanegodd Mandy: "Os hoffech chi fy nghefnogi, byddwn i mor ddiolchgar. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i wella gofal i'n cymuned. Diolch yn fawr am eich caredigrwydd a'ch anogaeth!"
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda: "Mae Mandy yn godwr arian anhygoel ac yn gefnogwr ymroddedig i Elusennau Iechyd Hywel Dda. Y llynedd, ymgymerodd yn ddewr â'r Sialens Llinell Sip, ac eleni mae hi'n mynd hyd yn oed yn fwy trwy gwblhau naid am nawdd i godi arian hanfodol ar gyfer ei gwasanaeth.
"Ni allwn ddiolch digon iddi am ei hymrwymiad anhygoel. Dangoswch eich cefnogaeth I Mandy, rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n cael profiad bythgofiadwy."
Gallwch gefnogi achos Mandy trwy gyfrannu i'w thudalen Enthuse, yma: https://hyweldda.enthuse.com/cf/mandy-s-skydive-challenge