Uchod: staff o dimau Bryngolau a Mynydd Mawr
Mae’n bleser gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyhoeddi bod cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer gerddi therapiwtig newydd yn Ysbyty Tywysog Philip.
Bydd y gerddi newydd yn cyfoethogi profiadau cleifion a staff ar ward Mynydd Mawr, uned adsefydlu gofal yr henoed, a ward Bryngolau, uned iechyd meddwl oedolion hŷn, yn fawr, a byddant yn manteisio ar agosrwydd y ddwy ardal.
Bydd y mannau awyr agored bywiog yn hybu lles, yn ysgogi'r synhwyrau, yn annog gweithgaredd ysgafn, ac yn darparu amgylchedd diogel a thawel ar gyfer myfyrio a rhyngweithio cymdeithasol.
Diolch i haelioni'r gymuned leol a chefnogwyr ar draws yr ardal, mae'r arian wedi'i sicrhau i ddod â'r weledigaeth hon yn fyw.
Cefnogwyd hyn gan Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip a lansiwyd yn ystod gaeaf 2023 i godi arian i drawsnewid y mannau awyr agored yn wardiau Mynydd Mawr a Bryngolau yn amgylcheddau iach, diogel i gleifion hŷn, eu teuluoedd, a staff yr ysbyty.
Dywedodd Lauren Hughes, Rheolwr Ward yn ward Bryngolau: “Ar ran pawb ym Mryngolau, hoffem estyn ein diolch dyfnaf am eich cefnogaeth i’n gerddi. Bydd eich caredigrwydd yn hwyluso creu man awyr agored heddychlon, therapiwtig lle gall ein cleifion a’n staff fwynhau natur, dod o hyd i gysur, a phrofi eiliadau o lawenydd a chysylltiad.”
Dywedodd Gareth Phillips, Uwch Brif Nyrs yn ward Mynydd Mawr: “Ar ran yr holl gleifion a staff yn uned adsefydlu Mynydd Mawr, hoffem ddiolch o galon am y gefnogaeth a dderbyniwyd ar gyfer y gerddi newydd. Trwy eich haelioni a’ch caredigrwydd, gallwn nawr wneud ein gweledigaeth o ofod adsefydlu awyr agored yn realiti i’n cleifion a’u teuluoedd.”
Ychwanegodd Nigel Owens, a oedd yn hyrwyddo’r apêl: “Mae’n wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd. Gall mannau awyr agored wneud gwahaniaeth enfawr i iechyd meddwl a chorfforol, ac rwy’n falch o fod wedi cefnogi prosiect mor ystyrlon.”
Bydd gwaith ar y gerddi yn dechrau ym mis Chwefror 2026, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn.