Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu gemau a gweithgareddau i helpu i gadw'r plant a'r bobl ifanc sy'n mynychu Hyb Llesiant Bro Myrddin yn Tre Ioan, Sir Gaerfyrddin yn brysur.
Y ganolfan yw canolfan argyfwng iechyd meddwl gyntaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae'n darparu darpariaeth iechyd meddwl bwrpasol i blant a phobl ifanc mewn amgylchedd therapiwtig, ar adeg pan fyddant ei hangen fwyaf. Mae Bro Myrddin yn darparu lle diogel i blant a phobl ifanc sy'n cyflwyno mewn argyfwng, gan atal derbyniadau gofidus a diangen i adrannau damweiniau ac achosion brys a wardiau iechyd meddwl.
Mae rhai eitemau sydd wedi'u hariannu gan elusen y GIG yn cynnwys 'Bop It!', llyfrau lliwio yn ôl rhif, clai sych a phecynnau gwneud cylchoedd allweddi.
Dywedodd Alex Simpson, Tîm Argyfwng S-CAMHS a Rheolwr Gwasanaeth Defnyddio Sylweddau: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu mwy o gemau a gweithgareddau ar gyfer y plant a phobl ifanc rydym yn eu cefnogi yn y ganolfan.
“Gall yr eitemau a brynwyd helpu'r cleifion i ymgysylltu'n ystyrlon. Weithiau mae gennym blant a/neu bobl ifanc yn mynychu sy'n cael trafferth cyfathrebu, felly mae defnyddio'r gweithgareddau a ariennir yn ddiweddar yn ffordd dda o'u cynnwys.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”