Yn y llun: Cynhelir sesiwn therapi syrffio ar arfordir godidog gorllewin Cymru.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi ariannu rhaglen Therapi Syrffio Tonic gwerth £4,000. Talodd y cyllid i ddeg o bobl ifanc a oedd yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl gymryd rhan yn y rhaglen deg sesiwn.
Mae’r rhaglen Therapi Syrffio Tonic yn darparu cyfarwyddyd syrffio strwythuredig ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc brofi’r llawenydd a’r lles a ddaw o ymgysylltu â’r amgylchedd morol.
Mae’r sesiynau’n darparu ffordd effeithiol i ymarferwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (sCAMHS) ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd gadarnhaol a helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu barhau i oedolaeth.
Dywedodd Alastair Wakely, Rheolwr Darparu Gwasanaeth (sCAMHS): “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion caredig gan ein cymunedau lleol wedi ariannu’r sesiynau Therapi Syrffio Tonic.
“Mae’r sesiynau’n ymyriad effeithiol ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl, gan gyflwyno canlyniadau cadarnhaol gan gynnwys gwella hwyliau, llai o feddyliau am hunan-niweidio a hunanladdiad, llai o bryder cymdeithasol a gwell hunan-barch.
“Mae’r prosiect hefyd wedi caniatáu i ni werthuso ac archwilio potensial therapi syrffio fel ymyriad effeithiol ar gyfer pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n wych gweld rhaglenni hynod uchelgeisiol a chreadigol fel hyn yn cael eu darparu diolch i roddion elusennol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth ein cymunedau lleol sy’n ein galluogi i gynnig gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer yn nhair sir Hywel Dda.”