Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi cefnogi teuluoedd sy'n galaru trwy ariannu pyjamas i blant yn Ysbyty Glangwili sydd wedi marw'n anffodus.
Mae rhoddion hael i elusen y GIG wedi ariannu pyjamas gwerth dros £300 mewn amrywiaeth o feintiau ar gyfer plant sydd wedi marw'n sydyn yn yr ysbyty neu yn y gymuned.
Dywedodd Jenna Davies, Nyrs Datblygu Ymarfer Proffesiynol Pediatrig: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r pyjamas newydd.
“Fel gwasanaeth, rydym yn darparu cefnogaeth ar unwaith i deuluoedd yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl baban neu blentyn ifanc. Mae galaru am golli plentyn yn sydyn yn llethol iawn ac yn anodd ei lywio.
“Er mwyn sicrhau ein bod yn creu atgofion arbennig, rydym yn rhoi cyfle i deuluoedd helpu i gyflawni gofal olaf gyda'u plant. Mae hyn yn cynnwys ymolchi'r baban neu'r person ifanc a'u gwisgo mewn pyjamas newydd. Yn aml, mae teuluoedd yn cael hyn yn gysur gan mai dyma'r peth olaf y gallant ei wneud i'w plentyn.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”