Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu offer i greu gardd synhwyraidd mewn ward iechyd meddwl

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu eitemau garddio gwerth dros £1,000 ar gyfer gardd synhwyraidd yn Ward Sant Caradog yn Ysbyty Llwynhelyg.

Ariannodd yr elusen GIG offer garddio, potiau, a thŷ gwydr.

Dywedodd Jasmine Pouton, Therapydd Galwedigaethol: "Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r eitemau hyn ar gyfer Ward Sant Caradog.

“Gall mannau gwyrdd ddarparu llawer o fuddion i unigolion sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Ein nod yw creu gardd synhwyraidd sy'n cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a staff i gael iechyd meddwl da, lles ac ymgysylltu ag arferion ymwybyddiaeth ofalgar.

“Gall ymgysylltu â gweithgareddau garddio greu ymatebion emosiynol, gwella ffocws a sylw, a lleihau meddyliau negyddol mewn amgylchedd ymlaciol. Bydd y gweithgareddau y bydd yr ardd yn eu darparu yn ein galluogi i archwilio sgiliau, canolbwyntio, sgiliau prosesu, sgiliau echddygol a chyfathrebu a rhyngweithio ag eraill.

“Bydd yr ardd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant ein staff, sy’n bwysig i ni er mwyn gallu cael boddhad da yn y swydd ac ymlacio a gorffwys yn ystod egwyliau cinio. Bydd modd defnyddio’r ardd fel man gwyrdd lle gall staff gael seibiant, hyfforddiant staff a chyfleu eu pryderon mewn amgylchedd cysurus.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: