Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu hyfforddiant canlyniadau gwaed i dechnegydd fferyllfa

Yn y llun uchod: Ruth Williams, Technegydd Fferyllfa Gwasanaethau Canser.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu cwrs Deall Canlyniadau Gwaed i Ruth Williams, Technegydd Fferyllfa Gwasanaethau Canser.

Mae cwrs Diweddariad M&K yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd ddeall canlyniadau hematoleg a biocemeg arferol yn llawn.

Ruth yw'r technegydd fferyllfa cyntaf i weithio o fewn tîm gwasanaethau canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n adolygu ac yn archebu profion gwaed yn rheolaidd wrth fonitro goddefgarwch ac ymateb claf i driniaeth canser.

Dywedodd Ruth: “Rwy'n hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i mi gymryd rhan yng nghwrs Deall Canlyniadau Gwaed Diweddariad M&K.

“Mae'r cwrs wedi rhoi'r cyfle i mi wella fy nealltwriaeth a theimlo'n fwy hyderus wrth gyfleu canlyniadau i gleifion. Rwyf bellach yn gallu archebu a dehongli profion gwaed yn gywir i sicrhau cost-effeithiolrwydd a diogelwch triniaethau canser.

“Mae'r dysgu hwn wedi helpu i gynyddu capasiti clinigau cleifion allanol a rhyddhau clinigwyr lefel uwch i weld cleifion cymhleth neu newydd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: