Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG yn cynnig cyfleoedd i wneud eich ewyllys a gadael diolch

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ymuno â chyfreithwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ystod Mis Gwneud Eich Ewyllys (1-31 Mai 2026) i gynnig cyfle i gefnogwyr ysgrifennu neu ddiweddaru ewyllys am bris llawer is. Mae'r cyfreithwyr yn ildio eu ffi arferol yn gyfnewid am rodd i'r elusen.

Mae’r mis ysgrifennu ewyllys yn gyfle perffaith i bobl nad oes ganddyn nhw ewyllys i ysgrifennu un, ac i’r rhai sydd ag ewyllys gyfredol i’w diweddaru. Mae’r elusen yn gofyn am isafswm rhodd o £110 ar gyfer ewyllys sengl a £195 am fwy nag un. Gall y rhai sy’n cymryd rhan sicrhau bod y bobl y maent yn eu caru yn cael eu cofio yn eu hewyllys, ac, os dymunant, eu helusen GIG leol.

Ymysg y Cyfreithwyr sy’n cymryd rhan mae DPA Law, Powell Davies Solicitors, a Price & Kelway.

Dywedodd Rachel Hughes, Partner yn DPA Law: “Mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle gwych i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Trwy wneud ewyllys gallwch sicrhau y darperir ar gyfer eich teulu a'ch ffrindiau, yn ogystal â'r achosion sy'n bwysig i chi.

“Os oes gennych chi ewyllys yn barod, mae Mis Gwneud Eich Ewyllys yn gyfle perffaith i’w ddiweddaru a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu unrhyw newid yn eich amgylchiadau drwy enedigaeth, profedigaeth, newid mewn statws priodasol a symud tŷ.”

Gadawodd Dr Harrison, a oedd yn anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili o’r 1960au i’r 1990au, gymynrodd hael i’r bwrdd iechyd sydd wedi ariannu eitemau a gweithgareddau sydd wedi gwella profiad cleifion a staff yn wirioneddol. Er enghraifft, diolch i gymynrodd Dr Harrison, roeddem yn gallu prynu offer oeri croen y pen ar gyfer cleifion sy’n cael cemotherapi, gan eu helpu i gadw eu gwallt yn ystod triniaeth.

Dywedodd Ben Perkins, nai Dr Harrison: “Roedd fy Modryb yn byw bywyd hir, hapus, yn byw yn union fel yr oedd hi eisiau. Roedd yn bwysig i fy Modryb adael cymynrodd i’r GIG i helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl, a byddai’n falch iawn o weld y gwahaniaeth cadarnhaol y mae ei chymynrodd yn ei wneud i gleifion a staff.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod dyfodol eich teulu yn ddiogel ac y bydd eich dymuniadau’n cael eu gwireddu – a hefyd i gefnogi eich GIG lleol.

“Bydd rhodd a wneir i’r elusen yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. A bydd y rhai sy’n dewis gadael rhodd i Elusennau Iechyd Hywel Dda, waeth pa mor fawr neu fach, yn ddiogel gan wybod y bydd eu cymuned yn teimlo manteision eu caredigrwydd am flynyddoedd i ddod.

“Hoffem ddiolch i’r holl gyfreithwyr a gymerodd ran am eu cefnogaeth wych ac am roi o’u hamser gwerthfawr i ni.”

Nifer cyfyngedig o leoedd ysgrifennu ewyllys sydd ar gael, ac fe’u dyfernir ar sail y cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/mis-gwneud-eich-ewyllys/

Dilynwch ni: