Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG yn ariannu offer uwchsain ar gyfer yr Adran Gastroenteroleg

Yn y llun uchod gwelir: Dr Ian Rees gyda’r sganiwr.

 

Diolch i’r rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu Uwchsain Pwynt Cyswllt (POCUS) newydd ar gyfer yr Adran Gastroenteroleg yn Ysbyty Tywysog Philip.

Yn 2024 trefnodd Eleanor Marks Ddiwrnod Elusennol y Capten yng Nghlwb Golff Ashburnham er cof am ei diweddar ŵr, Robert Marks, a dderbyniodd ofal rhagorol gan yr Adran Gastroenteroleg. Cododd y digwyddiad £3,094 a aeth tuag at yr offer newydd.

Dywedodd Nicola Reeve, Prif Nyrs Hepatoleg: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Eleanor Marks a’i chefnogwyr am eu hymdrechion sydd wedi caniatáu i ni brynu’r offer hwn.

“Bydd y POCUS yn hynod fuddiol wrth fonitro cleifion â chlefyd yr afu a'r abdomen. Bydd yn caniatáu i ni asesu unrhyw hylif abdomenol gyda'r nod o leihau baich meddyginiaeth ar ein cleifion.

“Bydd hefyd yn lleihau’r angen am dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd gall ein meddygon a’n nyrsys arbenigol wneud y gwaith monitro yn amgylchedd y claf allanol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: