Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau codi arian yn codi dros £4,000 ar gyfer Uned Gofal Dwys

Yn y llun uchod: Vicki Coles a Sophie Moncrieff gyda staff o'r uned.

 

Mae Vicki Coles a Sophie Moncrieff wedi codi swm gwych o £4,140 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Llwynhelyg er cof am Henry Coles, gŵr Vicki.

Trefnodd Vicki a Sophie, gyda chymorth eu teulu a’u ffrindiau, nifer o ddigwyddiadau elusennol, eillio elusennol, raffl a noson elusennol yn The Bull Inn yn Prendergast.

Yn anffodus bu farw Henry ym mis Mawrth 2024 ac roedd Vicki eisiau codi arian i ddweud diolch am y gefnogaeth anhygoel a gafodd yn yr ICU.

Dywedodd Vicki: “Roedd y gofal a gafodd Henry, a’r gefnogaeth a roddwyd i ni gan staff yr ICU yn anhygoel ac ni allwn ddiolch digon iddynt.

“Rydw i eisiau dweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu ar yr amser anodd iawn hwn. Edrychwn ymlaen at ddigwyddiad codi arian arall  gyfer penblwydd Henry y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Vicki a’ch teulu a’ch ffrindiau am godi swm anhygoel i’r ICU yn Llwynhelyg, mae’n deyrnged hyfryd i Henry. Gobeithiwn y byddwch yn gysurus o wybod y bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion, teuluoedd a staff yr ICU yn Ysbyty Llwynhelyg.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: