Neidio i'r prif gynnwy

Dawns elusennol yn codi £8k i ward blant Bronglais

Yn y llun uchod: Eleri Davies, Bethan Hughes, Paula Price, Paige Denyer

 

Cododd aelodau staff ward plant Angharad Ysbyty Bronglais £8,888 i'r ward drwy drefnu digwyddiad codi arian, ocsiwn a raffl.

Cynhaliodd Bethan Hughes, rheolwr cleifion mewnol a chleifion allanol pediatrig a prif nyrs ar gyfer ward y plant, a'i thîm ddawns elusennol ym mis Tachwedd 2025, gyda'r holl elw yn mynd yn uniongyrchol i Ward Angharad.

Cafodd gwesteion a brynodd docynnau i'r digwyddiad ddiod groeso wrth gyrraedd a phryd gyda'r nos dau gwrs. Darparwyd adloniant gyda'r nos gan y delynores Sophie Rudge, yr Hornettes a'r DJ GOC Sounds.

Ac, yn ogystal â phrynu tocynnau, gallai gwesteion hefyd brynu tocynnau raffl a chymryd rhan mewn ocsiwn ar y noson, tra bod tudalen JustGiving wedi'i sefydlu i gefnogi'r ymgyrch.

Dywedodd Bethan ei bod yn hynod ddiolchgar i fusnesau lleol yng Ngheredigion a gyfrannodd at y digwyddiad, yn ogystal â'i haelodau staff, Paula, Eleri, Diane a Rachel, a'i helpodd i drefnu'r ddawns elusennol.

Dywedodd Bethan fod codi arian ar gyfer y ward bob amser wedi bod wrth wraidd ei rôl.

Ychwanegodd:

"Roeddwn i eisiau codi arian ar gyfer y ward rydw i'n gweithio ac yn rheoli ynddi, i helpu i wneud gwahaniaeth i daith y claf a gwella profiad y claf i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

"Roedd Dawns Elusennol Ward Angharad yn llwyddiant ysgubol, rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth i gefnogi ac i bawb a gyfrannodd at wobrau raffl ac ocsiwn ac wrth gwrs i fusnesau lleol a'n nododd ar hyd y ffordd.

"Diolch yn fawr iawn i Paige a'r tîm yn Elusennau Iechyd Hywel Dda am ein harwain a'n cefnogi ar hyd y ffordd."

Ychwanegodd:

"Rydw i mor falch bod y noson yn llwyddiannus. Bydd yr arian a godir yn mynd yn bell i wneud gwahaniaeth i daith a phrofiad y cleifion ar Ward Angharad."

Dywedodd Paige Denyer, swyddog cymorth codi arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

"Llongyfarchiadau i Bethan a'i thîm am godi swm mor wych i'r ward!

"Mae cefnogaeth gan gymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ac rydym yn ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn."

Dilynwch ni: