Neidio i'r prif gynnwy

Cynghrair dartiau Caerfyrddin yn codi cannoedd o bunnoedd i Ward Cilgerran Ysbyty Glangwili

Nicola Jones

Mae tîm dartiau o Gaerfyrddin wedi codi cannoedd o bunnoedd i Elusennau Iechyd Hywel Dda drwy noson raffl.

Dewisodd Nicola Jones a gweddill Cynghrair Dartiau Gaeaf Merched Caerfyrddin a’r Cylch godi arian i Ward Cilgerran Ysbyty Glangwili trwy drefnu noson elusennol a raffl, a gynhaliwyd ar y 30ain o Fedi, gyda’r holl elw yn mynd i ward y plant.

Y trefnydd Nicola oedd yn gyfrifol am werthu tocynnau raffl ar y noson, lle’r oedd gwobrau’n cynnwys detholiad o hamperi, teganau a danteithion melys.

Cafodd Nicola ei hysbrydoli i godi arian i Ward Cilgerran er cof am ei mam, Anita, a oedd hefyd yn chwaraewr dartiau, a dewisodd godi arian ar gyfer ward y plant i ddweud diolch ar ôl i staff y ward helpu ei mab pan oedd yn fabi.

Cododd Nicola gyfanswm o £668 a rhagori ar ei gôl.

“Roedd yn noson anhygoel, llawn hwyl a phawb wedi mwynhau eu hunain,” meddai.

Dywedodd Bethan Osmundsen, Uwch Reolwr Nyrsio, Paediatreg Aciwt, fod yr ysbyty’n “hynod ddiolchgar am y rhodd hael” gan Nicola a’r gynghrair dartiau.

Ychwanegodd hi:

“Mae eich caredigrwydd yn cael effaith uniongyrchol a pharhaol ar y babanod, plant a phobl ifanc yn ein gofal, gan wella eu cysur, eu lles a phrofiad cyffredinol cleifion.

“Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i greu amgylchedd mwy cadarnhaol, cyfeillgar i blant lle mae cleifion ifanc a’u teuluoedd yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi, ac yn derbyn gofal. Diolch am wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Dilynwch ni: