Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu hadau glas y gors, ar gyfer teuluoedd sy'n galaru ac sy'n cael eu cefnogi gan y Timau Gofal Lliniarol Arbenigol ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae glas y gors yn blanhigyn blodeuol sy'n aml yn cael ei blannu fel symbol o gofio, cariad a chysylltiadau parhaol.
Gall yr hadau gynnig cysur ac iachâd i deuluoedd sy'n galaru trwy ddarparu teyrnged fyw, barhaol i anwylyd sydd wedi marw.
Dywedodd Sharon Jones, Nyrs Glinigol Lliniarol Arbenigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu'r hadau.
“Mae'r hadau'n cael eu hanfon gan y Timau Gofal Lliniarol Arbenigol at deuluoedd cleifion sydd wedi marw o dan ein gofal naill ai yn yr ysbyty neu yn y gymuned.
“Fel tîm, rydym am ddangos caredigrwydd a thrugaredd i deuluoedd sydd wedi galaru, gydag ystum tebyg i ofal hosbis. Mae'r hadau hyn yn rhoi gwybod i'r teuluoedd ein bod yn meddwl amdanynt ac eisiau eu helpu i gofio eu hanwyliaid flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i'r hadau flodeuo.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”