Yn y llun uchod: Sarah Rees, ei mab James, a staff o Uned Ddydd y Priordy yn Ysbyty Glangwili.
Bu ffrindiau a theulu hefyd yn cyfrannu at yr uned yn ei angladd.
Dywedodd Sarah: “Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr â haelioni pawb a’r holl gymorth a chefnogaeth a roddwyd i ni. Diolch i Uned Ddydd Priordy Ysbyty Glangwili am ofalu am Dylan a ni mor dda. Allwn ni ddim diolch digon.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian; “Diolch i deulu a ffrindiau Sarah, James a Dylan am eich haelioni. Mae eich rhodd i Uned Ddydd y Priordy yn wych a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth wych, mae'n deyrnged hyfryd i Dylan.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”