Yn y llun uchod: Julian Lewis.
Ymgymerodd Julian Lewis â’r sialens enfawr o ultramarathon di-stop 62.5 milltir o hyd a chododd £3,595 ar gyfer Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip.
Ar 15 Mehefin 2024, cymerodd Julian ran yn Ultramarathon Race to the King.
Dywedodd Julian: “Rwy’n byw gyda fy nheulu yn Rhydargaeau sy’n bentref bach bedair milltir i’r gogledd o Gaerfyrddin ac rwy’n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin yn yr Adran Cymunedau, fel Rheolwr Contractau a Chomisiynu Eiddo Tai. Mae gen i dri o blant 19, 17 a 13 oed. Rwy'n aelod o glwb rhedeg TROTS yn Sanclêr.
“Penderfynais godi arian gan fod fy modryb a’m cydweithwyr agos wedi derbyn triniaeth anhygoel gan yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip.
“Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y rhoddion hael a gefais. Mae pobl wedi bod mor garedig, rydw i wir yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth. Yn wreiddiol gosodais darged codi arian o £500 ac fe wnes i gyrraedd hyn o fewn ychydig wythnosau. Mae wedi bod yn wych cefnogi elusen mor deilwng a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith gwych a wneir gan Uned Gofal y Fron Peony. Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac ni allaf ddiolch digon i bawb am eu cefnogaeth anhygoel.”
Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud da iawn i Julian am gymryd rhan yn y sialens anhygoel hon i’r Uned Gofal y Fron.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”