Yn y llun uchod: Dewi John.
Mae Dewi Owen yn cymryd rhan yn Nhriathlon Llanelli ar 11 Mai 2025 i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae Dewi, 47 oed o Lanelli, yn codi arian i'r uned oherwydd bod ei dad, William John Owen, yn derbyn triniaeth yn yr uned ar hyn o bryd.
Dywedodd William: “Rwy’n 76 ac wedi ymddeol. Rwyf wedi bod yn cael triniaeth cemotherapi ar gyfer Myeloma Ymledol am y 14 mlynedd a hanner diwethaf.
“Cefais ddiagnosis o Myeloma ar 1 Gorffennaf 2010, ac mae’r uned chemo yn sicr wedi achub fy mywyd. Rydym yn gobeithio codi £1,000.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i Dewi, diolch am gymryd rhan mewn digwyddiad mor heriol i godi arian i’r uned.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Gallwch gyfrannu at godwr arian Dewi yma: https://www.justgiving.com/page/william-owen-1735394909931