Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn yn elwa o roddion elusennol

Yn y llun uchod: Lara Schmidt, Therapydd Galwedigaethol a Lisa Thomas, Technegydd Therapi Galwedigaethol.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi cefnogi Timau Iechyd Meddwl Cymunedol Oedolion Hŷn (OACMHTs) a Wardiau Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn trwy ariannu gemau bwrdd a phecynnau peintio.

Mae rhoddion hael i elusen y GIG wedi ariannu saith gêm fwrdd ‘All About Us’, gêm a ddatblygwyd ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia i ganolbwyntio ar bŵer adrodd straeon bywyd ac ymwybyddiaeth ofalgar, a saith ‘Aqua Paint Packs’ sydd hefyd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia i fynegi eu hunain yn greadigol a dod o hyd i dawelwch.

Dywedodd Lara Schmidt, Therapydd Galwedigaethol (OT): “Rydym yn hynod falch bod rhoddion elusennol wedi ein galluogi i brynu’r eitemau hyn ar gyfer y OACMHTs a Wardiau Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Mae gêm fwrdd ‘All About Us’ yn cynnig y cyfle i’w defnyddio fel offeryn asesu un-i-un yn ogystal ag mewn lleoliadau grŵp.

“O safbwynt Therapydd Galwedigaethol, mae’r gêm fwrdd yn gwahodd ein defnyddwyr gwasanaeth i feddwl a siarad am bwy ydyn nhw, eu profiadau, eu teimladau a’u gwerthoedd yn ogystal â’u rolau bywyd. Bydd hyn yn cefnogi cryfhau hunaniaeth, annibyniaeth ac ymdeimlad o bwrpas wrth alluogi Therapyddion Galwedigaethol i feithrin perthynas therapiwtig a deall hanesion personol ein defnyddwyr gwasanaeth yn well.

“Mae’r darluniau ar y Pecynnau Paent Dŵr wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y boblogaeth hŷn ac yn cynnig cyfleoedd i hel atgofion a sgwrsio. I’n defnyddwyr gwasanaeth, mae peintio dŵr yn weithgaredd risg isel sy’n dal i gynnig profiad cyfoethog gan y gall peintio dŵr ymarfer dychymyg, a galluogi pobl i brofi llawenydd a theimlad o gyflawniad.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: